Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(36)(v3)

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Comisiynydd Pobl Hyn Cymru: Gofal gydag Urddas? – Cynnydd (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2011 (15 munud) 

NDM4880 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Tachwedd 2011.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012
Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ynghylch rhinweddau’r Offeryn Statudol


 

</AI4>

<AI5>

5. Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol (60 munud) 

NDM4881 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2011.

Dogfen Ategol
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Cynghorau)

</AI5>

<AI6>

6. Dadl ar Raglenni Ewropeaidd (60 munud) 

NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfraniad cadarnhaol y mae Rhaglenni Ewropeaidd cyfredol a blaenorol yn ei wneud ac wedi’i wneud;

2. Yn croesawu’r rôl hanfodol y mae arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol, yn ei chwarae o ran cefnogi economi Cymru;

3. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;

4. Yn nodi â phryder benderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati unwaith eto i chwarae rôl ganolog yn yr UE wrth lunio polisi a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod un Llywodraeth Cymru ar ôl y llall wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial rhaglenni’r UE a bod rhannau o Gymru’n dal i fod ymysg y tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd.

[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y cant o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 1 ar ôl ‘wedi’i wneud’ rhoi ‘ond hefyd yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r rhaglenni hynny’n effeithiol i wella ffyniant economaidd cymharol Cymru’.

Gwelliant 4 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi Ewropeaidd.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod y trafodaethau ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011 ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithredu er budd gorau pobl Cymru a Phrydain yn nhrafodaethau cyllido’r UE.

[os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 6 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 4 dileu ‘yn mynd ati unwaith eto i chwarae’ a rhoi ‘yn chwarae’.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol er mwyn gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf ar fuddiannau rhaglenni’r UE i Gymru.

 

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<AI8>

7. Dadl Fer (30 munud) 

NDM4883 Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Gwneud trafnidiaeth gynaliadwy’n haws ar gyfer cymunedau gwledig

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 11 Ionawr 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>